Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

 

Senedd and Elections (Wales) Bill

CLA(5) SE22

Ymateb gan unigolyn

Evidence from individual

Rwy'n cysylltu ynghylch y bwriad i ailenwi'r Cynulliad Cenedlaethol, a'r tro pedol ar yr ymrwymiad blaenorol i alw'r sefydliad yn 'Senedd' ym mhob iaith.

Mae llawer yn cyfeirio at y sefydliad fel 'y Senedd' neu "the Senedd" eisoes. Prin fod y term "Welsh Parliament" yn cael ei ddefnyddio o gwbl ar hyn o bryd, a byddai ei gyflwyno nawr fel rhyw enw 'lled-swyddogol' yn gam yn ôl ac yn creu dryswch. Daw pawb i ddeall Senedd yn fuan iawn os mai dyma fydd yr unig enw.

Os yw'r Gymraeg yn perthyn i bawb, fel y dywedir yn aml, dyma gyfle gwych i'n corff democrataidd cenedlaethol ddangos hynny, drwy roi'r gair yma yn rhodd i bawb ei rannu.

Croesawyd y cyhoeddiad i ddefnyddio 'Senedd' yn y ddwy iaith gan grwpiau, sefydliadau, Aelodau'r Senedd ac unigolion. Mae'n cynnig un enw ac un logo syml y gall pawb eu defnyddio. Beth bynnag ein gallu yn yr iaith, mae ‘Senedd’ yn enw y gall pawb fod yn falch ohono.

Dylai enw ein corff democrataidd cenedlaethol, ein Senedd, atseinio cystal â’n hanthem genedlaethol. Dyma ein cyfle i gymryd y penderfyniad cywir.

Rwy'n mawr obeithio eich bod yn cytuno, ac y byddwch yn cefnogi diwygio’r Bil er mwyn sicrhau bod enw a logo uniaith Gymraeg ar ein corff democrataidd cenedlaethol.

I’m writing regarding the intention to rename the National Assembly, and the u-turn on the previous commitment to call the institution " Senedd' in all languages.

Many refer to the institution as "y Senedd' or "the Senedd" already. The term "Welsh Parliament" is rarely used – introducing it now would be a step backwards and would only create confusion. Everyone will come to understand ‘Senedd’ very soon if it is the only name.

This is a great opportunity for our national democratic body to demonstrate that the Welsh language belongs to everyone - by giving everyone this Welsh language name that we can all share.

The original announcement that the name 'Senedd' was going to be used in both languages was welcomed by many groups, institutions, Members of the Senedd and individuals. It offers one name and one logo that everyone can recognise and use. Whether or not we can speak Welsh fluently, ‘Senedd’ is a name that we can all be proud of.

The name of our national democratic body, our Senedd, should ring as clearly as our national anthem. We only have one opportunity to make the right decision.

I very much hope that you agree, and that you will support amending the Bill to ensure a single Welsh name and logo for our national seat of democracy.